Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017
Amser: 09.09 -
10.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4271
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Mark Reckless AC (yn lle Neil Hamilton AC) Lee Waters AC |
Tystion: |
Dr Emyr Roberts, Cyfoeth Naturiol Cymru Kevin Ingram, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Derwyn Owen David Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac fe drafodwyd materion cyfrinachol cyfredol.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Dirprwyodd Mark Reckless AC ar ei ran.
1.3 Datganodd Mark Reckless AC fuddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Cyfrifon Cyfoeth Naturiol Blynyddol Cymru 2015-16.
3.2 Cytunodd Dr Roberts i:
· Roi eglurhad am yr amrywiad yn y pris a dalwyd am goed yng Nghymru, ynghyd â phrisiau cyfredol y farchnad
· Darparu cost y cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol
· Paratoi nodyn ar yr arfer da a fabwysiadwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheoli salwch staff
3.3 Yn ogystal, nododd y Pwyllgor ei fod am gael gweld yr adroddiad sydd ar ddod gan Reolwr Archwilio Mewnol a Sicrwydd Risg Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr adolygiad o risgiau rheoli ynghyd â chopi o'r achos busnes a baratowyd ar gyfer y contract i ymateb i ledaeniad y clefyd coed P. ramorum.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.